P-04-443 : Hanes Cymru
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud Hanes Cymru yn orfodol yn ein hysgolion o saith oed.
Gwybodaeth ychwanegol: Addysgu am Gymru o’r oes Geltaidd hyd at y presennol, yn cynnwys Llywelyn, Glyndŵr, pob Tywysog Brodorol Cymreig arall, Tryweryn, y Welsh Not, y Goresgyniad Normanaidd, y Ddeddf Uno a diwydiannu. Ymddengys nad yw hanes Cymru i gyd yn cael ei ddysgu, a rhai elfennau yn unig yn cael eu cynnwys i gyd-fynd â chyfnodau a digwyddiadau penodol.
Prif ddeisebydd: BALCHDER CYMRU / PRIDE OF WALES
Nifer y llofnodion: 597